Gŵyl Gerdd Ryngwladol
Abergwaun a Gorllewin Cymru
2021
Dydd Sul 22 Awst - Dydd Sul 12 Medi
A wnewch chi nodi’r newidiadau i ddyddiadau’r Ŵyl eleni, os gwelwch yn dda. Mae hyn o achos yr ansicrwydd sy’n parhau ynglŷn â chyfyngiadau’r Llywodraeth. Mae ansicrwydd, hefyd, ynglŷn â chael caniatad i gynnal perfformiadau byw, Yn y rhaglen byrrach a gyhoeddir yma, bydd y cyngherddau yn cael eu recordio ar fideo ac yn ymddangos ar-lein. Os caiff y cyfyngiadau eu llacio, a chynulleidfaoedd yn cael mynediad, fe gynhelir cyngherddau ychwanegol, os bydd amser yn caniatau. Diolch am ymddiried ynom ac am eich amynedd.
Dros 50 mlynedd o gerddoriaeth ardderchog yng ngorllewin Cymru