Saturday 3 September  ¦  Nos Sadwrn 3 Medi    7.30 pm

Theatr Gwaun, Fishguard  ¦  Abergwaun

Pedair draws on the talents of four of Wales' most prominent folk artists: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym and Siân James. Groundbreaking international artists, they thrive on collaboration and the thrill of live performance. With harps, guitars, piano and accordion, their music has captured the hearts of audiences with their sweeping harmonies, fresh interpretations of the Welsh folk tradition, and intimacy of songwriting. Their first recordings, having emerged during lockdown, gained instant popularity. With their much-anticipated debut album set for release by Sain in 2022, Pedair's creative synergy is only beginning to reach its full potential.

Pedair 1.jpeg

Mae Pedair yn dwyn ynghŷd dalentau pedair o artistiaid gwerin amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James.  A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw.  Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitarau, piano ac acordion.  Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.  Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!) A'u halbym cyntaf yn cael ei ryddhau gan Sain yn 2022, tydi asiad creadigol Pedair ond megis cychwyn cyrraedd ei lawn botensial.

Vri.jpeg
Vri logo no border 2.png

Three young men from deepest, darkest, chapel-going Wales create a soundtrack to the cultural upheaval of the past two hundred years. Their intricate and infectious interpretations of Welsh traditional melodies and songs have gained them widespread critical acclaim. Their debut album ‘Ty Ein Tadau’ (House Of Our Fathers’) received Best Album and Best Traditional Welsh Language Track in the Wales Folk Awards and a nomination at the BBC Radio 2 Folk Awards for Best Traditional Song, as well as a nomination for the Welsh Music Prize. VRï, alongside Beth Celyn, have more recently been featured on The Last Night of the Proms representing Wales in a collection of sea songs from the British Isles and Ireland.

Triawd yw Vrï sydd wedi dod ynghyd i gynrychioli Cymru a'i cherddoriaeth ar lwyfan y sîn 'gwerin-siambr' sydd yn ymddangos bob ochr i'r Iwerydd ar hyn o'r bryd. Maent yn cyfuno profiad Jordan Price Williams (Elfen) Patrick Rimes (Calan) ac Aneirin Jones, ac mae'r tri yn cyflwyno caneuon ac alawon o'r gwledydd Celtaidd a thu hwnt, tra'n ceisio gweddu egni sesiwn dafarn swnllyd efo ystryw a trefniannau cain pedwarawd llinynnol Fiennaidd.

Tickets ¦ Tocynnau: £15    12 - 18: £5    Under 12 ¦ Dan 12: £1