top of page
Website Pedair_edited.jpg

Photo: Anna Higson

SA65 9AD

 

​Monday 27 July  ¦  Nos Lun 27 Gorffennaf   7.30pm

Pedair, feminine form of 'pedwar' ('four' in Welsh) draws on the talents of four of Wales' most prominent and award-winning folk artists: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym and Siân James. Groundbreaking international artists in their own right, all four thrive on collaboration and the thrill of live performance. Together they bring to life traditional material with new arrangements on harps, guitars, piano and accordion. Their live performances have captured the imaginations and hearts of audiences with their sweeping harmonies, fresh interpretations of the Welsh folk tradition, and intimacy of songwriting.

​

Their first recordings, having emerged during lockdown, gained instant popularity, unexpectedly becoming a source of comfort and hope to many. Having won the ‘Albym Cymraeg y Flwyddyn’ (Welsh Album of the Year Award) at the National Eisteddfod in 2023, with their debut album, ‘Mae ’na Olau’, released by Sain, their much anticipated second album, 'Dadeni', was released in November 2024. They have performed extensively in Wales and recently at festivals in Europe and Canada. In November 2025 they undertook a very successful concert tour in Patagonia.

Mae Pedair yn dwyn ynghÅ·d dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Siân James, Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn and Meinir Gwilym. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs a phiano. Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.

​​

Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol. Rhyddhawyd eu halbym cyntaf, 'Mae' na olau', ar label Sain yn 2022, albym a enillodd iddynt wobr 'Albym Cymraeg y Flwyddyn' yn 2023. Rhyddhawyd eu hail albym hirddisgwyliedig, 'Dadeni', yn 2024. Maent wedi perfformio'n helaeth yng Nghymru ac yn ddiweddar mewn gwyliau yn Ewrop a Canada. Ym mis Tachwedd 2025 buont yn perfformio fel rhan o daith arbennig i'r Wladfa ym Mhatagonia.

Tickets for this concert are available via the Theatr Gwaun website.  Please click below to be connected.

Mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd hwn ar gael drwy wefan Theatr Gwaun. Cliciwch isod os gwelwch yn dda.

£20    Under 16 yrs:  FREE

© Fishguard Festival of Music 2026

bottom of page